Dathlu Gwytnwch a Chreadigrwydd ar Waith


Cydnabod Sefydliadau Celfyddydol am eu Gwaith drwy gyfnod Pandemig COVID-19

Cynhaliwyd digwyddiad Dathliad y Celfyddydau Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru, a noddir gan Wales & West Utilities, yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ar Nos Iau 2 Rhagfyr. Taflodd y digwyddiad, a gafodd ei ffrydio’n fyw i gynulleidfa fyd-eang, olau ar yr hyblygrwydd ac arloesi a ddangoswyd gan sector y celfyddydau yn ystod y pandemig, a gwobrwywyd saith sefydliad gyda gwobrau ariannol i gydnabod eu gwaith.

Cyflwynodd llu o sêr adnabyddus y gwobrau i’r sefydliadau buddugol, gan gynnwys actorion Rakie Ayola, Aneirin Hughes, Julian Lewis Jones, Suzanne Packer, Callum Scott Howells a Keiron Self, cyflwynydd Teledu a Chynllunydd Anna Ryder Richardson, a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, AS.

Enillodd Artis Community Cymuned sydd wedi’i leoli ym Mhontypridd Wobr The Waterloo Foundation & Gwobr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am addasu yn gyflym i heriau’r pandemig, gan ddod ag ystod o weithgareddau a ffurfiau celfyddydol i dros 15,500 o bobl.

Rhoddwyd Gwobr Cartrefi Conwy i Celfyddydau Anabledd Cymru i gydnabod ei weithgareddau i leddfu unigedd, cefnogi lles ac annog datblygiad creadigol ymhlith ei gynulleidfa sy’n arbennig o agored i niwed.

Derbyniodd Engage Cymru Wobr Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am ei waith rhagorol yn ymgysylltu cymunedau ymylol gydag orielau ac amgueddfeydd, awdurdodau lleol ac artistiaid.

Aeth Gwobr Distyllfa Penderyn i Hijinx am waith y sefydliad i frwydro yn erbyn unigedd cymdeithasol i bobl sydd ag anableddau dysgu, drwy gyflwyno 350 o sesiynau ar-lein, gan helpu actorion ei Academi sicrhau gwaith yn ddigidol a chynhyrchu theatr ar-lein arobryn.

Enillodd Elusen Aloud Wobr Sefydliad Gofal Parc Pendine i gydnabod y gefnogaeth hanfodol y mae wedi’i roi i’w gyfranogion, gan ymestyn ei waith yn llwyddiannus yn nhermau effaith cymdeithasol ac ymgysylltiad â chefnogwyr.

Rhoddwyd Gwobr Admiral i Theatr na nÓg o Gastell Nedd am ei agwedd greadigol a chydweithredol at ddod â theatr o ansawdd uchel i’w gynulleidfaoedd.

Aeth y Brif Wobr – y Wobr Hodge Foundation o fri – i Forget-Me-Not Chorus am y gwaith ysbrydoledig y mae’r sefydliad wedi’i wneud i ymgysylltu â rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, mewn cartrefi gofal, ysbytai a’r gymuned, gan rymuso a chysylltu pobl sy’n byw gyda neu ochr yn ochr â dementia.

Aeth Wobr Ymgynghorydd y Flwyddyn am yr unigolyn o fusnes sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar sefydliad celfyddydol, gan weithio drwy Raglenni Datblygiad Proffesiynol C&B Cymru, i Deb Bowen Rees, Cyfarwyddwr Anweithredol Dŵr Cymru Welsh Water a Port of Milford Haven, am ei chefnogaeth eithriadol i Hijinx Theatre a The Other Room.

Wrth siarad yn y Dathliad, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, AS “Ar ran Llywodraeth Cymru hoffwn longyfarch Celfyddydau & Busnes Cymru am gydnabod yr holl sefydliadau sydd wedi derbyn gwobr heno. Fel pob sefydliad diwylliannol ledled Cymru, mae Celfyddydau & Busnes Cymru wedi gorfod addasu’n gyflym ac ailffocysu i ymdrin â’r heriau mawr a achosir gan y pandemig, ac mae’r elusen wedi gwneud gwaith gwych i barhau ei gefnogaeth ffyddlon a hynod o werthfawr i’r celfyddydau.”

Yn ogystal â noddwyr ariannol y gwobrau, gweithiodd C&B Cymru gydag ystod o bartneriaid digwyddiad, a chyfrannodd pob un ohonynt at lwyddiant y noson. Mae’r rhain yn: Noddwr Adloniant, Prifysgol De Cymru a Phartner y Cyfryngau Orchard Media & Events, yn ogystal â designdoughEversheds Sutherland, Flightlink Wales, Milltir Sgwâr, Park Plaza Cardiff a Theatr y Sherman.

Dewiswyd yr enillwyr gan banel annibynnol o feirniaid sy’n cynrychioli noddwyr y Dathliad: Catherine Brannigan, Rheolwr Cronfa The Waterloo Foundation; Nicola Burns, Cynorthwyydd Gweithredol yn Admiral; Laura Carpanini, Pennaeth Cyfryngau Orchard Media & Events; Katie Cubb, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy; Sarah Edwards, Artist Preswyl yn Sefydliad Gofal Parc Pendine; Jaime Falarczyk, Pennaeth Materion Corfforaethol Wales & West Utilities; Karen Hodge, Ymddiriedolwr yr Hodge Foundation; Mark Jackson, Cyfarwyddwr Ysgol Fusnes De Cymru ym Mhrifysgol De Cymru; Simone Joslyn, Pennaeth Celfyddydau Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro; Janet Price, Cyfarwyddwr Gweithredu yn Eversheds Sutherland; ac Yr Athro Ian Walsh, Profost ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Roedd beirniaid Ymgynghorydd y Flwyddyn yn David Landen, Prif Weithredwr Hodge Bank, a Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg.

Darparwyd adloniant Nadoligaidd y noson gan gast A Christmas Carol Theatr y Sherman a feiolinydd a chyfansoddwr amryddawn, Simmy Singh.