Dathliad o'r Celfyddydau 2021


Enillwyr


Adref

Adref

Adref

Adref

Adref

Adref

Adref

Adref

Yn y Rownd Derfynol


Noddir Dathliad o’r Celfyddydau 2021 gan


Partneriaid Gwobr


Partneriaid y Digwyddiad


Beirniaid


Gwobrau Celfyddydol

Adref

Catherine Brannigan

Mae Catherine wedi bod yn Rheolwr Cronfa gyda The Waterloo Foundation am y 10 mlynedd diwethaf. Yn raddedig mewn Seicoleg, mae ganddi gefndir gwaith helaeth yn y trydydd sector a dielw, mewn rôl broffesiynol a gwirfoddol.

Adref

Nicki Burns

Mae Nicki wedi gweithio mewn amryw o rolau yn Admiral am y 27 mlynedd diwethaf ac wedi rheoli'r bartneriaeth rhwng y busnes a C&B Cymru ers saith mlynedd hyfryd! Mae'n briod gyda dau o blant ac mae'n gefnogwr brwd o'r celfyddydau, yn enwedig sefydliadau sy'n grymuso ac yn meithrin talent i ddarparu cyfleoedd hollgynhwysol.

Adref

Laura Carpanini

Mae Laura yn arwain y tîm Cyfathrebu yn Orchard, gan ddyfeisio a darparu ymgyrchoedd cyfathrebu aml-sianel effeithiol ar gyfer portffolio o gleientiaid allweddol, o'r sector preifat a chyhoeddus, ledled Cymru, y DU a thu hwnt.

Adref

Katie Clubb

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr, mae Katie yn gyfrifol am wasanaethau rheng flaen hanfodol Cartrefi Conwy ar gyfer ei denantiaid a’i chymunedau. Mae hi hefyd yn arwain ar ddarparu cartrefi o ansawdd, trwy ddatblygiadau newydd a sicrhau bod ei gartrefi presennol yn parhau i fod yn ddiogel, yn fforddiadwy ac mewn cyflwr da.

Adref

Sarah Edwards

Mae Sarah wedi bod yn Artist Preswyl Pendine Park ers dros 25 mlynedd. Mae hi’n credu’n angerddol y gall y celfyddydau nid yn unig gyfoethogi bywydau pobl mewn gofal cymdeithasol, ond eu trawsnewid a dweud bod “yr effaith hynod gadarnhaol y mae creadigrwydd yn ei chael ar les ac ansawdd bywyd yn wirioneddol ysbrydoledig.”

Adref

Jaime Falarczyk

Yn rheolwr cyfathrebu profiadol, mae Jaime yn arwain y tîm Materion Corfforaethol yn Wales & West Utilities, y rhwydwaith nwy ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr.

Adref

Karen Hodge

Mae Karen yn Ymddiriedolwr Hodge Foundation, sy'n dyfarnu grantiau i elusennau ar draws ystod o achosion. Ei ffocws penodol yw ymgysylltu ag elusennau sy'n gweithio gyda phobl i annog profiadau cadarnhaol. Mae'r Sefydliad wedi ymrwymo i roi cyfle i bobl o bob cefndir gyflawni eu potensial ac i ffynnu.

Adref

Mark Jackson

Gyda dros 25 mlynedd o brofiad o addysgu ac arwain o fewn addysg greadigol, mae Mark yn Gyfarwyddwr Ysgol Fusnes De Cymru ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'n eiriolwr angerddol dros y berthynas rhwng busnes a'r celfyddydau, ar ôl dal rolau fel Pennaeth yr Ysgol Celf a Dylunio a'r Cyfarwyddwr Dylunio a Digidol.

Adref

Simone Joslyn

Mae Simone yn rheoli datblygiad tîm a rhaglen gelf y bwrdd iechyd er mwyn gwella bywydau cleifion, staff, gwirfoddolwyr a’r gymuned. Mae’r tîm bach ond ymroddedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn angerddol am barhau i ddatblygu arlwy celf y bwrdd iechyd.

Adref

Janet Price

Mae Janet Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn Eversheds Sutherland. Mae hi’n gefnogwr brwd o'r celfyddydau sydd wedi bod yn Fentor Busnes C&B Cymru ers bron i ddegawd. Yn 2019, fe’i penodwyd i Fwrdd newydd cwmni yn Abertawe, Lighthouse Theatre.

Adref

Yr Athro Ian Walsh

Yr Athro Walsh yw Profost campysau Abertawe a Chaerdydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a chyn Ddeon Coleg Celf Abertawe.


Beirniaid Ymgynghorydd y Flwyddyn

Adref

David Landen

Mae David wedi gweithio yn Hodge Bank ers bron i 20 mlynedd ac fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr yn 2020. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd C&B Cymru ac yn Gadeirydd ei Is-bwyllgor Cyllid.

Adref

Geinor Styles

Geinor yw Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg. Ganwyd Geinor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd theatr profiadol ac angerddol o Gymru, ym Merthyr Tudful. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, dau fab a Ralff y ci.

Cefnogwch Ni


Mae C&B Cymru yn elusen gofrestredig. Mae’r tîm bach yn gweithio’n ddiflino i gefnogi gwaith hanfodol sefydliadau celfyddydol ac artistiaid unigol ledled Cymru. Byddai hyn yn syml yn amhosibl heb haelioni ein holl bartneriaid a chefnogwyr.
Os hoffech roi rhodd i’n helpu i barhau â’r gwaith gwerthfawr hwn sydd ei angen
yn fawr, cliciwch ar y ddolen ddiogel isod.